Cwestiynau

Cwestiynau

PAM NAD YDW I WEDI DERBYN FY NGHERDYN/BAG ETO?
Dylid ystyried bod pob cynnyrch yn unigryw ei ddyluniad ac wedi eu gwneud â llaw, felly gall gymryd 7-10 diwrnod gwaith.

OES MODD ANFON YR ARCHEB I GYFEIRIAD ARALL YN HYTRACH NA’U HANFON ATA I?
Oes. Mae opsiwn i newid y cyfeiriad danfon wrth roi eich manylion taliad.

PAM FOD YNA YCHYDIG O WAHANIAETH YN Y CYNNYRCH SYDD GEN I, MEWN CYMHARIAETH Â’R LLUN AR Y WEFAN?
Rwyf yn ymdrechu i sicrhau bod portread cywir o’r eitemau yn cael ei ddangos ar y wefan, ond gall fod rhai amrywiadau yn y lliw, ffurfdeip a dyluniad, oherwydd natur unigryw a natur gwaith llaw y cynnyrch.

SUT YDW I’N TALU?
Galwch wneud taliad yn ddiogel ar y system taliadau PayPal. Caiff yr archeb ei anfon unwaith bydd cadarnhad o dderbyn y taliad.

YDI TALU Â CHERDYN CREDID AR-LEIN YN DDIOGEL?
Awgrymir defnyddio PayPal fel dull effeithiol a diogel o wneud taliad ar-lein. Os ydych erioed wedi archebu ar Ebay yna byddwch wedi defnyddio PayPal a dylech felly gael cyfrif yn barod, bydd hyn yn gwneud y broses o dalu yn syml a chyflym. Os nad oes gennych gyfrif yn barod, yna mae’r broses o ymrestru â PayPal yn eithaf syml.

DANFON
Caiff pob cynnyrch ei anfon Dosbarth Cyntaf neu Ddanfoniad Cofnodedig (trwy gais, am gost ychwanegol). Caiff costau danfon a phacio safonol eu cynnwys ym mhris terfynol yr eitem. I anfon dramor dylid cysylltu â mi trwy e-bost ar llinos@cyfarchion.com . Gall y gost amrywio.

DYCHWELYD
Yn yr achos anffodus nad ydych yn hapus â safon y cynnyrch, gallwch ddychwelyd y cynnyrch o fewn 14 diwrnod gwaith, a byddwn yn fwy na hapus i roi ad-daliad llawn neu amnewid y cynnyrch.
Oherwydd natur y cynnyrch a wnaed yn bersonol i’r unigolyn, ni fyddwn yn gallu cynnig unrhyw ad-daliad. Ond os yw’r elfen bersonol yn ddiffygiol oherwydd gwall ar fy rhan, byddwn yn fwy na pharod i roi ad-daliad llawn neu amnewid yr eitem am y pris a brynwyd, heb unrhyw gostau ychwanegol. Noder os gwelwch yn dda mai eich cyfrifoldeb chi fyddai gwneud trefniadau i ddychwelyd y cynnyrch.

PA DDEFNYDD A WNEIR O FY MANYLION CYSWLLT
Ni chaiff eich manylion ei roi i unrhyw 3ydd parti. Defnyddir eich manylion cyswllt i gadarnhau eich archeb, ac i roi gwybodaeth ar y newyddion diweddaraf ynglyn â ‘Cyfarchion’.