Amdanai

Amdanom ni

Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, rwyf bellach yn byw yn Nghaernarfon. Sefydlwyd Cyfarchion yn dilyn fy niddordeb mewn creu cardiau creadigol i deulu a ffrindiau yn ôl y gofyn.

Oherwydd yr ymateb cryf a phositif tuag at fy nghrefft, rwyf wedi datblygu steil unigryw a modern o ddylunio cardiau â llaw drwy ddefnyddio clai Polymer ac papur mulberry ac rwyf yn creu cynnyrch Cymreig unigryw, ar gyfer unrhyw achlysur arbennig.

Yn dilyn llwyddiant fy nghynyrch mewn gwyliau lleol a chenedlaethol, a chynnydd mewn galw am fy nghynnyrch penderfynais wrando ar fy nghwsmeriaid ac agor Siop yng Nghaernarfon. Flwyddyn yma gyda fy nghynyrch yn gwerthu yn dda yn lleol fy ngobaith yw cynyddu hyn gyda gwefan newydd yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.

Mae croeso i chi fwrw golwg ar bopeth a chofiwch os oes gennych unrhyw ymholiad neu os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r cynnyrch cysylltwch â Cyfarchion.

Mae Cyfarchion yn parhau i ddatblygu a chreu ystod newydd a chyffrous o gardiau a bagiau. Cadwch lygad am rhain!